Swyddfa Docynnau 029 2022 4488
Mae gennym Swyddfa Docynnau yma yn yr Arena felly mae prynu eich tocyn yn hawdd. Gallwch alw heibio os ydych chi yn y dref, neu ffoniwch ni. Gallwn helpu gydag unrhyw ymholiad. Boed dewis y seddau gorau, neu os ydych am siarad drwy ein cynlluniau eistedd, rydym yma i helpu. (Ac rydym ar rif ffôn lleol hefyd sydd bob amser yn dda).
Mae prynu drwy ein Swyddfa Docynnau yn golygu y gallwch brynu yn hyderus. Yr ydym yn gofrestredig gyda S.T.A.R, sy’n golygu y gallwch osgoi unrhyw driciau cas gan rai darparwyr tocynnau ar-lein eraill. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth restr aros felly chi fydd y cyntaf i wybod os oes tocynnau ychwanegol ar gael ar gyfer y sioeau sydd wedi gwerthu allan.
Oriau agor y Swyddfa Docynnau am Mis Awst
Dydd Llun i Dydd Gwener 9yb – 5yh
Dydd Sadwrn a Dydd Sul ar gau
Rriau arferol yn ailddechrau Dydd Mawrth 30 Awst
Hygyrchedd
Os oes gennych anghenion mynediad, ewch i'n tudalen hygyrchedd neu ffoniwch ein tîm Live Access ar 029 2023 4509.
Telerau ac Amodau
Rydym wedi cynnwys ein Telerau ac Amodau sy'n cael eu hargraffu ar gefn ein tocynnau
Archebion grŵp
Os oes criw yn dod, gallwch fwynhau gostyngiadau pellach. (Jyst gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd selfie grŵp ac anfonwch atom). E-bostiwch [email protected] i gael gwybod faint y gallwch chi arbed.