The Danish Quarter

Ymlaciwch cyn i'r sioe ddechrau. Dewch i’n bar newydd sbon.

Dewch i’r Chwarter Daneg gan Carlsberg yn yr Arena Motorpoint Caerdydd ar Lefel 1. Y lle i gymdeithsau dros ddiod neu ddau, o bryd bynnag y bydd drysau'n agor ar noson sioe.

Pan fyddwch yn ymweld â ni yn yr Arena, dewch i weld y Chwarter Daneg. Mae'n annog ymdeimlad o hygge (y term Daneg am deimlad o les a hapusrwydd) - un o'r cyntaf o'i fath yn y DU.

Yn chwaethus, yn hamddenol ac yn amgylchynol, mwynhewch yr awyrgylch Daneg, a gwnewch yn siwr eich bod yn cyrraedd yn gynnar ar gyfer y sioe rydych chi gyda ni i'w weld. P'un ai yw'r peint yn Carlsberg Export, neu ddiod arall o'n bwydlen amrywiol ... Skål!

Dechreuodd cysyniad Chwarter Daneg ar draws gwyliau Ewropeaidd yn haf 2017 ac mae bellach yn ymuno â'r teulu o fariau sydd ar gael ar draws y lleoliad.

Cynhaliwch Eich Digwyddiad yn y Chwarter Daneg 
I'r rheini sy'n chwilio am le newydd i greu digwyddiad arbennig yng nghanol dinas Caerdydd, y Chwarter Daneg yw’r lleoliad perffaith ar gyfer pob math o gwrdd. P'un a yw'n ddigwyddiad rhwydweithio, sgwrs addysgiadol, lansio neu ddathlu, gadewch i’r Chwarter Daneg ysbrydoli sgwrs ddiddorol rhwng cydweithwyr a ffrindiau. Dewch i weld. Trefnwch wylio gyda'n tîm gwerthu.

Ffoniwch 029 2023 4500 heddiw.

Eisiau gwybod beth sy'n digwydd? Cofrestrwch i glywed oddi wrthym trwy e-bost a hysbysebion ar-lein a chi fydd y cyntaf i glywed am ein sioeau newydd sbon, cystadlaethau â gwobrau unigryw, cyfweliadau artistiaid a mwy!

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei ddefnyddio yn unol â'n Polisi Preifatrwydd.
Not long to go before @richardashcroft - this Saturday night! Important information ahead of your visit (including… https://t.co/cLzRLZ4j10
NEW SHOW ANNOUNCEMENT @LewisCapaldi 11 March 2020 On sale Friday 26 April 2019, 9am. Call 029 2022 4488 |… https://t.co/8vGkTR2dFF
How about we announce a big new show that’s coming to Cardiff? Stand by... https://t.co/arafk1K6s8