Byddwch yn dod o hyd i ni:
Motorpoint Arena Cardiff
Mary Ann Street
Cardiff
CF10 2EQ
Dolen Clyw
Mae gennym system clyw is-goch yn yr Arena. Siaradwch â’n Swyddfa Docynnau sydd yn gallu rhoi cyngor ar y mannau gorau i eistedd. Rydym yn darparu mwclis i'w defnyddio gyda chymhorthion a chlustffonau clyw ar gyfer y rhai sy'n drwm eu clyw. Gallwch gasglu'r rhain ar y noson gan ein Derbynfa am flaendal o £10.
Parcio
Does gennym ni ddim lle i barcio ar y safle i’r gynulleidfa ond rydym wedi ein hamgylchynu gan ddigonedd o feysydd parcio aml-lawr.
Ar gyfer eich sat nav ein cod post ydy CF10 2EQ
Mae meysydd parcio NCP Rapports a Dewi Sant ar agor 24 awr, a'r rhain yw'r agosaf at y Arena.
MEYSYDD PARCIO ERAILL GERLLAW:
John Lewis – Mannau parcio: 550, mannau parcio i’r anabl: 21
Stryd Adam - Mannau parcio: 427, mannau parcio i’r anabl: 20
Stryd Herbert - Mannau parcio: 150, mannau parcio i’r anabl: 0
Stryd Quay - Mannau parcio: 336 , mannau parcio i’r anabl: 4
Cwrt Castell - Mannau parcio: 46, mannau parcio i’r anabl: 0
Dewi Sant - Mannau parcio: 2568, mannau parcio i’r anabl: 120
Rapports - Mannau parcio: 128, mannau parcio i’r anabl: 2
Defnyddiwch y ffurflen isod i ddweud wrthym am eich anghenion hygyrchedd a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.