Gall y brif Arena gynnig cynlluniau hyblyg ar gyfer 500-5000 o gynrychiolwyr, arddangosfeydd, a gwledda am 350-1000 o westeion.
Rydym wedi cynnal digwyddiadau ar raddfa fawr, gan gynnwys “WOMEX” (Arddangosfa Cerddoriaeth Byd) , Marathon Hanner Byd Caerdydd ac Arddangosfa Chwaraeon, gyda rhestr o gleientiaid trawiadol gan gynnwys BT a Admiral, mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer trefnwyr digwyddiadau.
Rydym hefyd yn cynnig wal acwstig, gan greu ystafell o fewn ystafell, gan ganiatáu trefnwyr i greu prif gyfarfod, arddangosfa ac arlwyo, i gyd yn un man.